Lle Cyfle Rhyngwladol
Yn Cwrdd â Dyfeisgarwch Cymru
Wythnos Dechnoleg Cymru, sy’n cael ei phweru gan Technology Connected, yw uwchgynhadledd dechnoleg ryngwladol fwyaf Cymru. Mae’n arddangos technoleg Cymru, ei hecosystem ac yn hyrwyddo’r diwydiant ar lwyfan byd-eang.
Mae’r uwchgynhadledd dechnoleg ryngwladol yn cynnig y gorau o ddau fyd – gan gyfuno buddion technoleg â grym pobl, eu rhyngweithio, afiaith a dyfeisgarwch. Mae Wythnos Dechnoleg Cymru yn cysylltu, yn hyrwyddo ac yn datblygu Cymru fel canolfan arbenigedd a chyfle ar gyfer technolegau galluogi a thechnolegau newydd, a’u cymwysiadau ar gyfer busnes a chymdeithas heddiw.
Mae’n amlygu rôl hanfodol mabwysiadu technoleg er mwyn i sefydliadau ar draws pob sector arloesi a ffynnu ym myd yfory.
Gan dynnu sylw at y cyfleoedd diddiwedd o fewn technoleg, arloesi a chydweithio, mae Wythnos Dechnoleg Cymru yn fagnet ar gyfer ymgysylltu byd-eang, buddsoddiad a thalent.
Ailymweld ag Wythnos Technoleg Cymru 2025…
Beth i'w Ddisgwyl
Rhyngwladol
Clystyrau
Cyfle
Arloesedd
Buddsoddiad
Cydweithio
Talent
Arloesedd. Buddsoddiad. Rhyngwladol.
Busnesau technoleg. Arloeswyr. Arweinwyr diwydiant. Buddsoddwyr. Sector cyhoeddus. Y ‘tech-chwilfrydig’. Maent i gyd yn dod i ddarganfod ecosystem dechnoleg sy’n llawn twf, buddsoddiad a chyfle!