Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Wythnos Dechnoleg Cymru 2025 a gynhelir o 24ain – 26ain Tachwedd 2025.
Mae’r canllaw hwn yn rhoi’r holl wybodaeth sy’n berthnasol i deithio i’r lleoliad a chael mynediad iddo.
Wythnos Dechnoleg Cymru yn Gryno
Wedi’i chreu a’i phweru gan Technology Connected, Wythnos Dechnoleg Cymru yw uwchgynhadledd dechnoleg ryngwladol fwyaf Cymru. Mae’n arddangos technoleg Cymru, ei hecosystem ac yn hyrwyddo’r diwydiant ar lwyfan byd-eang. Mae’r uwchgynhadledd dechnoleg ryngwladol yn cynnig y gorau o ddau fyd – gan gyfuno buddion technoleg â grym pobl, eu rhyngweithio, afiaith a dyfeisgarwch. Mae’n amlygu rôl hanfodol mabwysiadu technoleg i sefydliadau ar draws pob sector er mwyn arloesi a ffynnu ym myd yfory.
Cyfeiriad y Lleoliad:
Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd, De Cymru, NP18 1HQ
Parcio ar y Safle
Mae parcio ar y safle o dan yr adeilad, gydag uchder ar gyfer cerbydau o 2.1m. Rheolir y parcio ar y safle hwn gan ICC Cymru, a chodir tâl o hyd at £20 am 24 awr. Am fanylion pellach a’r ffioedd parcio llawn, cyfeiriwch at y wybodaeth yma: https://www.iccwales.com/exhibitors/parking/
Bws Gwennol i’r Digwyddiad Am Ddim
Bydd gwasanaeth bws gwennol EV am ddim rhwng Gorsaf Casnewydd ag ICC yn y boreau a’r prynhawniau. Os ydych chi’n bwriadu defnyddio’r opsiwn hwn, mae angen i chi fod yno mewn da bryd, oherwydd yn ystod cyfnodau brig efallai y bydd yn rhaid i chi aros am y bws nesaf, yn dibynnu ar y galw. Nid oes angen archebu ymlaen llaw.
Dydd Llun 24 a Dydd Mawrth 25 Tachwedd
07:00 – 10:30 Bws gwennol o orsaf drenau Casnewydd i ICC
15:30 – 19:30 Bws Gwennol o ICC i orsaf drenau Casnewydd
Dydd Mercher 26 Tachwedd
07:00 – 10:30 Bws gwennol o orsaf drenau Casnewydd i ICC
14:00 – 15:30 Bws Gwennol o ICC i orsaf drenau Casnewydd
Hedfan
Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ychydig i’r gorllewin o’r Barri ac oddeutu 1 awr o deithio ar y ffordd i ICC Cymru.
Teithio ar Drên
Mae ICC Cymru yn daith tacsi 15–20 munud o Orsaf Drenau Casnewydd. Gwiriwch am unrhyw oediadau neu fysiau yn lle trenau ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
Tacsis
ABC Taxis: 01633 271971
Capitol Taxis: 01633 212 121
Veezu Taxis: 01633 216 216 (hefyd ar gael trwy ap)
Teithio mewn Car
Nodwch y gall yr M4 fod yn brysur iawn yn ystod cyfnodau traffig brig, ac mae’n well caniatáu ar gyfer hyn wrth gynllunio eich taith.
Cyfarwyddiadau ar y ffordd o’r Dwyrain neu’r Gorllewin
Wrth i chi agosáu ar yr M4, trowch allan wrth Gyffordd 24. Wrth y gylchfan cymerwch y B4237 tuag at Gasnewydd. Fe welwch arwydd mawr Celtic Manor/ICC ar ôl 100 metr, trowch i’r dde. Byddwch yn gyrru ar draws pont (gan groesi’r M4) ac yna’n dod i fforch yn y ffordd (sy’n mynd i’r chwith ac i’r dde). Dilynwch y ffordd i fyny nes i chi gyrraedd y gylchfan a gallwch weld Y Celtic Manor. Cymerwch y trydydd tro oddi ar y gylchfan. Rydych chi nawr wedi cyrraedd ICC. Dilynwch y cyfarwyddiadau i mewn i’r maes parcio o dan yr adeilad neu’r parthau ar gyfer danfoniadau.
Cyfarwyddiadau ar y ffordd o’r Gogledd
Cymerwch yr M5 a throwch allan wrth Gyffordd 15 i’r M4 tua’r gorllewin. Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 24. Wrth y gylchfan cymerwch y B4237 tuag at Gasnewydd. Fe welwch arwydd mawr Celtic Manor/ICC ar ôl 100 metr, trowch i’r dde. Byddwch chi’n gyrru ar draws pont
(gan groesi’r M4) ac yna’n dod i fforch yn y ffordd (sy’n mynd i’r chwith ac i’r dde). Dilynwch y ffordd i fyny nes i chi gyrraedd y gylchfan a gallwch weld Y Celtic Manor. Cymerwch y trydydd tro oddi ar y cylchfan. Rydych chi nawr wedi cyrraedd ICC. Dilynwch y cyfarwyddiadau i mewn i’r maes parcio o dan yr adeilad neu’r parthau ar gyfer danfoniadau.
Cyfarwyddiadau (amgen) ar y ffordd o’r Gogledd
Cymerwch yr M5 a throwch allan wrth Gyffordd 8 i’r M50 tua’r de-orllewin. Mae’r ffordd yn dod yn A40 i Drefynwy, sydd yn ei thro yn dod yn A449, sy’n dod i ben wrth y gylchfan o dan Gyffordd 24 yr M4. Peidiwch ag ymuno â’r M4. Wrth y gylchfan cymerwch y B4237 tuag at Gasnewydd. Fe welwch arwydd mawr Celtic Manor/ICC ar ôl 100 metr, trowch i’r dde. Byddwch yn gyrru ar draws pont (gan groesi’r M4) ac yna’n dod i fforch yn y ffordd (sy’n mynd i’r chwith ac i’r dde). Dilynwch y ffordd i fyny nes i chi gyrraedd y gylchfan a gallwch weld Y Celtic Manor. Cymerwch y trydydd tro oddi ar y gylchfan. Rydych chi nawr wedi cyrraedd ICC. Dilynwch y cyfarwyddiadau i mewn i’r maes parcio o dan yr adeilad neu’r parthau ar gyfer danfoniadau.
Mynediad i’r Anabl
Mae mynediad â llawr gwastad i brif fynedfa ICC, ac mae’r rhan fwyaf o’r adeilad ar un lefel. Mae yna seddi y gellir eu symud ar gyfer gwesteion ag anableddau o fewn y neuadd ble cynhelir y digwyddiad. Mae lifftiau i’r lloriau uchaf. Mae ICC Cymru hefyd yn darparu cyfleuster Newid Lleoedd; gallwch weld y manylion yma: https://www.iccwales.com/venue/accessibility/